MEMORANDWM CYDSYNIAD

 

DEDDF CYRFF CYHOEDDUS 2011: DILEU AROLYGIAETH GWEINYDDIAETH LLYSOEDD EM A BWRDD Y GWARCHEIDWAD CYHOEDDUS

 

Cynnig Cydsyniad

 

1.  “Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud [enw’r Gorchymyn] 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.”

 

Cefndir

 

2.  Gosodwyd y memorandwm hwn gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â’r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror 2012.

 

3.  Mae’r Cynnig uchod wedi’i gyflwyno i geisio cytundeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad Cenedlaethol”), yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn i ddileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau lle mae Gorchymyn a wnaethpwyd o dan adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol pe bai’n rhan o un o Ddeddfau’r Cynulliad Cenedlaethol. O ran y Gorchymyn, dim ond y darpariaethau hynny ynghylch Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol.

 

4.  Gosodwyd copi o’r Gorchymyn yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.

 

Crynodeb o’r Gorchymyn a’i Amcanion Polisi

 

5.  Mae’r Gorchymyn yn dileu Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus (“y Bwrdd”) a sefydlwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“DGM”). Dyletswydd y Bwrdd yw archwilio ac adolygu’r ffordd y bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau a chyflwyno argymhellion priodol i’r Arglwydd Ganghellor. Mae swyddogaethau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi o dan adran 58 o’r DGM ac maent yn cynnwys swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag unigolion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau. 

 

6.  Mae gan y Bwrdd saith o aelodau sydd wedi’u penodi am fod ganddynt wybodaeth neu brofiad priodol yn y meysydd gwaith a gwmpasir gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent i gyd wedi’u penodi am gyfnod o bedair blynedd ar y mwyaf. Yr Arglwydd Ganghellor sy’n gyfrifol am wneud penodiadau yn uniongyrchol i’r Bwrdd, ac am ei aelodaeth. I’r Arglwydd Ganghellor y bydd y Bwrdd yn adrodd. Er bod gan Swyddfa Bwrdd Asiantaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus ran yn rheolaeth gyffredinol y corff, ffocws y Bwrdd yw monitro ac adrodd ar waith y Gwarcheidwad Cyhoeddus.

 

7.  Daw’r penderfyniad i ddileu’r Bwrdd yn sgil canlyniad adolygiad 2010  Llywodraeth y DU o gyrff cyhoeddus. Y bwriad yn dilyn dileu’r Bwrdd yw disodli swyddogaethau’r Bwrdd drwy gryfhau’r trefniadau llywodraethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n bodoli fel asiantaeth weithredol i Lywodraeth y DU.

 

Materion Cymhwysedd

 

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn bwriadu gwneud y Gorchymyn yn unol ag adrannau 1, 6 a 35 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. Byddai’r Gorchymyn yn dileu’r Bwrdd ac yn diddymu a dirymu mewn perthynas â hynny.

 

Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â “galluedd meddyliol” o dan Bwnc 9 (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) o Atodlen 7; a Phwnc 15 (Lles Cymdeithasol) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhwng y naill bwnc a’r llall, barn Llywodraeth Cymru yw fod sefydlu rhyw fath o gyfundrefn, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer atal, trin a lleddfu anhwylder meddyliol a/neu amddiffyn pobl agored i niwed, o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Ystyrir bod y cymhwysedd hwn yn ddigon eang i sefydlu bwrdd i gynnal ac amddiffyn hawliau unigolion ag anhwylder meddyliol a hefyd i sefydlu corff sy’n arfer swyddogaethau tebyg i rai’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru. I’r graddau y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd i greu corff o’r fath, byddai ganddo hefyd y pŵer i’w ddileu.

 

Barn Llywodraeth Cymru, felly, yw fod y Gorchymyn i ddileu’r Bwrdd yn deddfu ar gyfer diben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Oherwydd hyn, gofynnir am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, yn gymaint â bod y Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddileu’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru.

 

Gorchymyn cyfansawdd yw hwn sydd hefyd yn cynnwys dileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM. Sut bynnag, dim ond Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Manteision defnyddio’r Gorchymyn hwn

 

Ym marn Llywodraeth Cymru, y Gorchymyn hwn yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i weithredu’r cynigion hyn yng Nghymru, fel y gellir dileu’r Bwrdd cyn gynted â phosibl. Hyd y gwyddom, nid yw’r Bwrdd wedi cwrdd ers tro ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw wrthwynebiad i’w ddileu. Bydd y trefniadau llywodraethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu cryfhau er lles y cyhoedd ac er mwyn sicrhau bod Gweinidogion ac eraill yn parhau i gael sicrwydd ynglŷn â’r ffordd y bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflawni ei ddyletswydd.

 

Goblygiadau Ariannol

 

Am fod y Bwrdd yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru yn sgil y Gorchymyn hwn.

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol